Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (126)v4 |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
|
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
Cwestiwn Brys
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad brys ar amseroedd ymateb Gwasanaeth Ambiwlans Cymru?
|
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau
NDM5217 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Ken Skates (Llafur Cymru).
NDM5218 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol: (i) Christine Chapman (Llafur Cymru) a Jenny Rathbone (Llafur Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Ann Jones (Llafur Cymru) a Joyce Watson (Llafur Cymru), a; (ii) Christine Chapman (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
NDM5219 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol: (i) Ann Jones (Llafur Cymru), Keith Davies (Llafur Cymru) a David Rees (Llafur Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn lle Christine Chapman (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru) a Julie Morgan (Llafur Cymru), a; (ii)
Ann
Jones (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl
Ifanc. NDM5220 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.14, yn ethol Sandy Mewies (Llafur Cymru)
yn
aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Gwyn
Price (Llafur Cymru). NDM5221 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.14, yn ethol Julie Morgan (Llafur Cymru) a Joyce Watson
(Llafur Cymru) yn
aelodau o’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
yn
lle David Rees (Llafur Cymru) a Keith Davies (Llafur Cymru). NDM5222 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Ken Skates (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Mick Antoniw (Llafur Cymru). |
4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5211 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod effaith y tywydd garw diweddar ar gymunedau gwledig a busnesau yng Nghymru;
2. Yn nodi'r effaith y mae trafnidiaeth wledig a seilwaith cyfathrebu gwael wedi'u cael ar ymdrechion i fynd i'r afael ag amodau tywydd garw;
3. Yn credu bod yn rhaid i strategaeth ymateb i argyfwng Llywodraeth Cymru fod yn effeithiol wrth ymdrin â'r heriau unigryw sy'n wynebu cymunedau gwledig; a
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cronfa galedi i gynorthwyo busnesau yr effeithiwyd arnynt gan dywydd garw.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
‘ac yn nodi bod graddfa ac amlder tywydd garw yn debygol o gynyddu wrth i’n hinsawdd newid.’
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod tywydd garw wedi cael effaith anghymesur ar ffermwyr mewn Ardaloedd Llai Ffafriol, sy’n cwmpasu 80% o dir amaethyddol Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun cefnogaeth ariannol newydd ar gyfer ffermwyr mewn Ardaloedd Llai Ffafriol, a fyddai yn ei dro yn eu helpu i reoli effaith tywydd garw. |
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5212 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod potensial Ynys Môn fel canolfan i ynni a thwf economaidd;
2. Yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd Hitachi'n datblygu Horizon Nuclear Power ar safle Wylfa ar Ynys Môn;
3. Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried datblygu cynllun clir i gefnogi datblygiad Ynys Môn fel canolfan ar gyfer cynhyrchu ynni; a
4. Yn credu bod yn rhaid i ddatblygiad ynni niwclear ar Ynys Môn gael ei ategu gan gymorth pellach i gymysgedd cadarn o ynni ledled Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
‘ond yn gresynu bod y dasg o adfywio economi’r ynys yn cael ei thanseilio gan raglen doriadau Llywodraeth y DU’
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu dynodi Ynys Môn yn ardal fenter.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:
‘ac felly’n galw am ddatganoli polisi ynni i’r Cynulliad Cenedlaethol.’
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i gryfhau’r rhwydwaith trawsyrru presennol o ganlyniad i ddatblygiadau ynni arfaethedig yng Ngogledd Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau tryloywder llawn wrth ymgysylltu â’r Grid Cenedlaethol ar seilwaith newydd i’r grid. |
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5213 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu’n ddirfawr at anghydraddoldeb ar sail rhyw a'i fwlch cyflog parhaol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tymor hir i fynd i'r afael â stereoteipio o ran rhyw.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth y DU i roi grym i Dribiwnlysoedd Cyflogaeth orfodi archwiliadau cyflog ar gyflogwyr y ceir eu bod wedi gwahaniaethu ar sail rhyw mewn materion tâl cytundebol neu anghytundebol.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r sefyllfa ddiweddaraf am y camau a gymerir ganddi i fynd i’r afael â’r bwlch rhwng y rhywiau ym maes entrepreneuriaeth yng Nghymru.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi argymhelliad Adroddiad Davies ‘Women on Boards’ y dylai Byrddau FTSE 100 anelu at leiafswm o 25% o gynrychiolaeth fenywaidd erbyn 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â busnesau Cymreig i gynyddu nifer y menywod mewn swyddi uwch reoli.
Gellir canfod Adroddiad Davies ‘Women on Boards’ drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.bis.gov.uk//assets/biscore/business-law/docs/w/12-p135-women-on-boards-2012.pdf
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am gynllun newydd ar gyfer gofal plant di-dreth i deuluoedd sy’n gweithio ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd, yn ogystal â Dechrau’n Deg, i gynorthwyo menywod i fynd yn ôl i’r gwaith ym mhob rhan o Gymru.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod polisi Llywodraeth y DU i ddarparu adnoddau ar gyfer 5,000 o fentoriaid busnes gwirfoddol ar gyfer menywod i roi cefnogaeth effeithiol i fenywod sydd eisiau dechrau eu busnesau eu hunain neu dyfu eu busnesau, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r trydydd sector i ddatblygu cynllun o’r fath.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r camau gan Lywodraeth y DU i symud cydbwysedd cyfrifoldeb drwy absenoldeb rhieni ar y cyd, a fydd yn creu mwy o hyblygrwydd i rieni ac yn helpu i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn menywod yn y gweithle, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â busnesau yng Nghymru i sicrhau y gallant addasu i'r trefniadau newydd. |
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM5210 Eluned Parrott (Canol De Cymru):
Cefnu ar ein Brodyr - Asesu cefnogaeth i Anhwylder Straen Wedi Trawma yng Nghymru.
Dadl am Bersonél Arfog ac Argyfwng yng Nghymru sy'n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma a'r ffyrdd y gall Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Sector Gwirfoddol helpu. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2013